
Pasg i fis Hydref: Bob dydd, 9.30 am – 4.30pm
Hydref i'r Pasg: Llun - Gwener, 9.30 am – 4.30pm
Ar gau diwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Mae gennym ystod eang o lety ar gael yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, sy'n addas i gyllideb pawb, o'r gwesty gwely a brecwst llai i westai mawr 3 seren, ynghyd â pharciau gwyliau a safleoedd gwersylla.
Mae Gwasanaeth Llety'r Ganolfan Groeso yn cynnig manylion llety sydd ar gael dros y ffôn neu ebost, a medrwn hefyd drefnu llety os ydych yn yr ardal, trwy ymweld â'r Ganolfan Groeso.
Ni fyddwch yn mynd ar goll yn y Rhyl a Phrestatyn – mae gennym stoc dda o fapiau Arolwg Ordnans, gyda llawer o lyfrau ar gerdded, beicio a phethau eraill i'w gwneud yn yr ardal.
Os ydych yn chwilio am atyniad i ymweld ag o, neu eisiau gwybod beth sy'n digwydd, mae gennym stoc gynhwysfawr o daflenni ar gyfer yr ardal leol a rhanbarthol, ynghyd â manylion digwyddiadau yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, a'r ardal o gwmpas.
Medrwn eich helpu chi gyda:
Canolfan Groeso
Y Pentre
Promenâd y Gorllewin
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1HZ
Ffôn: 01745 344515, 01745 355068
Ffacs: 01745 342255
Ebost: rhyl.tic@denbighshire.gov.uk