
Mae’r Rhyl a Phrestatyn o fewn cyrraedd rhwydd boed hynny ar y ffordd neu ar y rheilffordd.
Mae gan ffordd gyflym yr A55 gysylltiadau uniongyrchol â thraffyrdd yr M56 a’r M6 ac mae gan y ddwy dref glan môr derfynellau’r cwmni bysiau National.
Mae digon o le i barcio yn y Rhyl a Phrestatyn, lle gallwch barcio eich car wrth lan y môr neu yng nghanol y dref. Mae gan ein meysydd parcio talu ac arddangos le i dros 2,500 o geir ac mae gan bob un ohonynt leoedd parcio ar gael i’r anabl. (Cysylltwch â’r Ganolfan Croeso am restr o gyfleusterau cyhoeddus.)
Mae gorsafoedd y Rhyl a Phrestatyn ar brif linell rhwydwaith rheilffordd Euston i Gaergybi – gan roi cysylltiadau gyda Lerpwl, Manceinion, Birmingham, De Cymru a fferïau cyflym Iwerddon ym Mostyn, tra bo meysydd awyr Manceinion a Lerpwl lai na thaith awr i ffwrdd.
I gael amserau a phrisiau tocynnau’r trên, cysylltwch â rhif ffôn yr Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 484950.
Mae’r fferïau yn rhedeg bob dydd i Fostyn a Chaergybi o Iwerddon. I gael gwybodaeth am y teithiau hwylio a’r prisiau cysylltwch â:
P & O: 0870 2424777
Irish Ferries:0870 5329129
Stena Line: 0870 5421126
www.traveline-cymru.org.uk