



Os byddwch angen mwy o wybodaeth wrth gynllunio gwyliau, neu ar ôl i chi gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Groeso, neu alw i mewn. Mae’r staff yno’n wybodus a chyfeillgar, ac fe wnânt bopeth y gallant i’ch helpu chi gynllunio eich ymweliad neu wneud y defnydd gorau o’ch arhosiad. Rydym ni ym Mhentref y Plant ar y promenâd ac yn agored saith diwrnod o’r wythnos am yr haf cyfan.
Pasg i fis Hydref: Bob Dydd, 9.30 am – 4.30pm
Mis Hydref i’r Pasg: Llun i Gwener, 9.30 am – 4.30pm
Wedi cau ddydd Nadolig, Gwˆyl San Steffan a Dydd Calan.
Mae gennym ddewis cynhwysfawr o lety yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, i siwtio pob poced, o lefydd Gwely a Brecwast a Thai Llety bychan hyd at westai mawr 3 seren, a pharciau gwyliau a safleoedd gwersylla a charafanau. Mae gwasanaeth llety’r Ganolfan Groeso’n gallu rhoi manylion dros y ffôn neu e-bost; gallwn hefyd drefnu lle aros i chi os ydych yn yr ardal, os galwch i mewn i’r Ganolfan Groeso.
Dewch chi ddim ar goll yn y Rhyl a Phrestatyn - mae gennym ni ddewis da o fapiau Ordnans yma, a llawer o lyfrau o ddiddordeb lleol am gerdded, beicio a phethau i’w gwneud. Os ydych chi’n chwilio am atyniad i ymweld ag ef neu eisiau cael gwybod beth sy’n digwydd, mae gennym ni ddewis cynhwysfawr o daflenni am atyniadau yn lleol ac yn y rhanbarth, a manylion o ddigwyddiadau yn y Rhyl a Phrestatyn a’r ardal o gwmpas.
Gallwn eich helpu gyda:
Canolfan Groeso
Y Pentref
Promenâd y Gorllewin
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1HZ
Ffôn: 01745 344515, 01745 355068
Ffacs: 01745 342255
Ebost: rhyl.tic@denbighshire.gov.uk