
Yn y Rhyl, medrwch grwydro i lawr y promenâd, neu fynd am reid ar ein mulod traddodiadol ar lan y môr. Os ydych yn teimlo'n fwy egnïol, medrwch fynd ar gefn beic a mwynhau rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 ar Bromenâd y Rhyl. Tra rydych yno, ewch i Barc Drifft lle mae pum parth gwahanol i'w crwydro; ewch i'r casino neu i fowlio deg. Medrwch gael eich dychryn yn y Terror Tombs, neu ewch i'r Gerddi Botanegol sy'n hafan o dawelwch gyda gerddi, cyrtiau tennis a grîn bowlio. Mae adloniant i'r plant llai ar Gae Chwarae'r Plant. Mae Pwll Cae Brics yn llyn dŵr ffres braf gyda glaswelltir a choedlannau o'i gwmpas, lle medrwch fwynhau taith gerfluniau, pysgota neu wylio adar. Mae rasio harnais ar y teledu i'w weld ar Drac Rasio Tir Prince a medrwch wylio pêl droed ar gae tîm cynghrair y Rhyl. O gychod, nofio, tennis i fowlio, golff a dawnsio, mae llawer o weithgareddau at ddant y teulu cyfan.
Mae Prestatyn hefyd yn cynnig ystod o weithgareddau megis cwrs golff pencampwriaeth, clybiau tennis, criced a phêl droed, bowlio a nofio dan do ac yn yr awyr agored. Mae beicio yn ffordd ddelfrydol o fynd o gwmpas y dref a gweld cefn gwlad. Mae dau lwybr beicio yn cychwyn ym Mhrestatyn sy'n mynd heibio Rhaeadr Dyserth lle mae tafarn, caffi a thoiledau i ymwelwyr, Traeth Barcbi a Thraeth Ffrith – mae'r ddau lwybr yn cychwyn o Lwybr Prestatyn – Dyserth ac os ydych wedi dod heb eich beic, peidiwch â phoeni – mae siop llogi beiciau ar y Stryd Fawr ym Mhrestatyn. Efallai y buasech yn mwynhau Clwb Rasio Ceir Autograss & Bangor, hwyl i rai sy'n newydd yn y sbort ac i hen lawiau – diwrnod gwych i'r teulu cyfan. I ymwelwyr dewrach, ewch ar un o'r teithiau ysbryd o gwmpas Prestatyn yn ystod misoedd yr haf, gyda'r hanesydd lleol Harry Thomas. Mae'r adran Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnig nifer o weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn ardal y Rhyl a Phrestatyn. Mae'r daflen 'Out and About' sydd ar gael yn y Ganolfan Groeso yn cynnwys syniadau ar beth fedrwch ei wneud.
Ychydig ymhellach i ffwrdd, mae gweithgareddau megis cerdded trwy'r gerddi yng Nghastell Bodelwyddan neu efallai yr hoffai'r plant gael cipolwg ar fywyd yng Ngharchar Rhuthun. Mae gweithgareddau awyr agored i'w mwynhau ym Mharc Gwledig Loggerheads ger Y Wyddgrug, gyda golygfeydd a theithiau i bob gallu.