
Am fwy na 150 o flynyddoedd mae’r Rhyl a Phrestatyn wedi bod yn rhoi hwyl ar lan y môr i’r teulu cyfan, ac mae llawer ohonynt yn dod ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Weithiau mae angen i chi wybod bod rhywun yn eich grwp gydag anghenion penodol yn mynd i gael gymaint o fwynhad â phawb arall.
P’run ai a oes gennych anghenion arbennig o ran diet, neu eich bod yn dymuno gwybod a oes gan ein sinema fynediad i’r anabl, neu os oes arnoch angen gwybod pa mor hygyrch yw rhai siopau i gadeiriau olwyn neu bygis, neu os ydych yn dod â’ch anifail anwes ar wyliau efo chi, gallwn eich helpu. Os hoffech wybodaeth i alluogi ymwelwyr gydag anghenion arbennig i wneud y gorau o’u harhosiad, cysylltwch ag un o’n Canolfannau Croeso.
Canolfan Croeso Rhyl:
01745 344515/355068
Canolfan Croeso Prestatyn: 01745 889092
(haf yn unig)
e-bost: rhyl.tic@denbighshire.gov.uk