
Y rhan orau o bob gwyliau glan môr teuluol yw traeth glân, diogel i’r plant. Mae'r Rhyl yn cynnig tair milltir o dywod euraidd ac mae gan Prestatyn bedair milltir o dywod wedi ei rannu rhwng tri thraeth ardderchog; Traeth Ffrith, Traeth Canol a Thraeth Barkby, i gyd gyda’u harddull arbennig eu hunain. Mae ein patrols achub tymhorol yn y Rhyl yn rhoi sicrwydd ychwanegol ynghylch diogelwch eich plant. Fel y dengys cofnodion mae hafau’r Rhyl a Phrestatyn yn boethach ac yn fwy heulog na chyfartaledd y DG, pa well lle felly i fanteisio ar y fath gyfoeth o draethau?
Mae ysbryd plentyndod yn dal yn fyw iawn yn ein trefi glan môr, oherwydd cynigiwn nid yn unig y traddodiadol ond hefyd y newydd a’r cyffrous i gadw’r teulu cyfan yn ddiddan. Mae’r pleserau traddodiadol yn cynnwys adeiladu cestyll tywod, casglu cregyn, padlo, reid ar gefn mul, candi fflos a hufen iâ a hwyl y sioe ‘Punch and Judy’. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys traethau dan do, reidiau yn y ffair i bob oed o blant bach i’r rhai yn eu harddegau (a thu hwnt!) a rhwng y Rhyl a Phrestatyn, y dref glan môr hynaf yng Ngogledd Cymru, gallwch ddilyn Llwybr Seiclo Sustrans ar hyd saith milltir wych gan ddilyn ein gwaith celf seramig rhyfeddol.