• aros
  • gwneud
  • i ddod
Find Hotels & Guest Houses
Hotels &
Guest Houses
Find now
Find Self-catering accommodation
Self-catering
accommodation
Find now
Find Camping & Caravans
Camping & Caravans
Find now

Prestatyn Nova Centre, The Family Entertainment Centre

www.prestatynnova.co.uk

Rhyl Sun Centre, a great family day out whatever the weather

www.rhylsuncentre.co.uk

North Wales Bowls Centre, North Wales best kept secret

www.clwydleisure.co.uk

Rhyl Sky Tower, North Wales as you’ve never seen it before

www.clwydleisure.co.uk

More attractions

What’s on in Denbighshire Mini guide
Events North Wales
Visit website
beaches guide

Dyma beth yw gwyliau. Gyda thraethau ym Mhrestatyn a'r Rhyl yn cael eu hargymell gan Ganllaw Traethau Da Cymdeithas Cadwraeth Forol, medrwch fod yn sicr bod ein traethau yn lân, yn ddiogel ac yn llawn hwyl.

Mae traethau gwastad, tawel a gwyntoedd da yn golygu bod ein traethau yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau haul a phob math o chwaraeon dŵr ar gyfer pobl brofiadol a rhai newydd fel ei gilydd.

Yn y Rhyl, mae tair milltir o draethau euraid yn cynnig amgylchfyd glân a diogel i'ch teulu. Mae gweithgareddau traddodiadol glan y môr megis nofio, padlo a mynd ar gefn y mulod oll ar gael, ond mae cyfle hefyd i bysgota môr, syrffio a syrffio barcud dan lygaid wyliadwrus ein gwasanaeth tymhorol achub bywydau.

Mae Prestatyn yn falch o chwifio'r Faner Las, wedi ei dyfarnu am draethau glân sy'n cynnig ansawdd dŵr da, safonau diogelwch, amgylcheddol ac addysgol uchel. Mae'r tri traeth ym Mhrestatyn – Ffrith, Barcbi a'r Traeth Canol – oll yn cynnig popeth i'r teulu, o dywod eang braf i gyfleusterau a lluniaeth gerllaw. A pheidiwch ag anghofio edrych ar yr olygfa hynod sy'n cyrraedd cyn belled ag Ynys Môn a mynyddoedd Eryri.

Mae ein traethau yn ddiogel hefyd – mae achubwyr bywyd trwyddedig yn gwylio'r parthau penodol ar y traethau ac maent hefyd yn cerdded trwy'r parthau eraill yn rhoi cyngor ar ddiogelwch. Mae tair gorsaf achub bywyd gyda staff, sy'n cynnig cyngor ac arweiniad a chymorth cyntaf os oes ei angen.

Nid ymwelwyr ar ddwy droed yn unig sy'n hoffi ymweld – mae'r rhai sydd ag adennydd a phedair coes yn dod yma hefyd! Mae miloedd o adar mudol yn dod i'r traethau bob blwyddyn, gan gynnwys y Forwennol Fach brin, ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i gael gweld Madfallod Tywod a llyffantod cefnfelyn.