
Mae'r Rhyl yn dref glan y môr gyffrous gydag atyniadau i ymwelwyr megis y SeaQuarium, lle medrwch weld siarcod, cathod môr a llyswennod môr Prydeining yn y twnnel tanddwr drwy Barth y Môr Dwfn, cyfarfod â Spike y dreigbysgodyn, mae'n debyg y dreigbysgodyn mwyaf yn y byd, yn ddeunaw modfedd o hyd. Medrwch wyliau'r sioe ym Mae'r Morlewod a hefyd medrwch fwydo'r morloi!
Yn y parc dŵr trofannol dan do yn yr Heulfan, cewch gyfle i roi cynnig ar ‘The Buzz’, lle'r ydych yn mynd i lawr 300 troedfedd tra'n eistedd ar gylch rwber. Yno hefyd mae Pwll y Lagwn, lle mae mellt a tharanau yn digwydd yn rheolaidd. Os yw'n well gennych ymlacio rhyw ychydig, yna mae'r rheilffordd mono ar y to yn rhywbeth i'w wneud cyn pryd bwyd neu ddiod ar y teras haul.
Gerllaw, medrwch ymweld â Pharc Drifft y Rhyl – y broblem fwyaf yno fydd lle i ddechrau. Medrwch ddewis y parc dŵr gyda phwll padlo a ffynhonnau, neu medrwch flino'r plant yn chwarae golff gwallgo neu ar gae chwarae'r plant. Efallai y byddai'n well gennych ymlacio yn y theatr awyr agored. Mae'r tirlunio yn hynod ac yn cynnwys cerfluniau, celfyddyd a strwythurau wedi eu llunio o bren rhuddin porffor, copr a llechen, gan ennill Gwobr Ymddiroledaeth Ddinesig i'r parc. A'r gorau oll, mae i gyd AM DDIM!
Mae Harbwr y Rhyl yn cynnig tripiau siarter i bysgota môr, ond os nad ydych yn ei hoffi hi ar y dŵr, medrwch geisio dal cerpyn ym Mhwll Cae Brics tra bod gweddill y teulu yn chwilio am adar, dyfrgwn a bwystfilod bach yn y pwll. Yn Marine Lake medrwch reidio ar Reilffordd Fach y Rhyl – yn dathlu 100 mlynedd ar 28ain i 30ain Mai eleni.
Am fwy o atyniadau fyth, mae Clwb Golff y Rhyl, y Gerddi Botanegol a'r Amgueddfa oll yn cynnig cyfle chwaraeon gwych, caffis ac agwedd hanesyddol ddiddorol ar yr ardal. Ystyriwch drefnu sedd yn Theatr y Pafiliwn neu Sinema'r Apollo (i ailagor yn ystod yr haf 2011 ar ôl gwaith ailwampio mawr) neu ewch i'r Arena Digwyddiadau lle cynhelir nifer fawr o sioeau, arddangosfeydd a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.
Prestatyn yw eich gwobr ar ben gogleddol mwy na 170 milltir o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a pha well golygfa na'r môr yn cyffwrdd milltiroedd a milltiroedd o dywod euraid. Mae Prestatyn yn un o ddim ond deuddeg o drefi yn y DU sydd wedi cael statws swyddogol 'Croeso i gerddwyr', oherwydd bod nifer fawr o bobl leol wedi llofnodi deiseb i gael y fraint hon. Felly, ar ôl cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru neu grwydro Twyni Gronant medrwch fod yn sâff o gael croeso cynnes ar ddiwedd eich ymdrechion.
Mae atyniadau ym Mhrestatyn yn cynnwys adloniant yn Sinema'r Scala a Chanolfan Nova, yn cynnig pyllau dan do, sleidiau dŵr a stiwdio ffitrwydd, ynghyd â bariau a bwyty. Canfyddwch yr Helmed Rufeinig anferth sy'n nodi adfeilion baddondy Rhufeinig, neu ewch i archwilio Castell Rhuddlan sydd fel rhywbeth allan o stori hud a lledrith, a chewch feicio a cherdded trwy olygfeydd hynod Bryniau Clwyd. Mae Prestatyn hefyd yn cynnig cyfle gwych i chwarae golff, bowlio deg, tennis, beicio a bowlio dan do yn yr Astrobowl, Canolfan Bowlio Gogledd Cymru, Clwb Golff Prestatyn a Pharc Hwyl Traeth Ffrith, sy'n golygu ei bod yn ganolfan ddelfrydol i deulu sy'n hoff o chwaraeon.
Mae'r ardal o amgylch yn cynnig atyniadau megis cestyll hynod ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn Rhuddlan a Dinbych. Mae un o'r eglwysi cadeiriol hynafol lleiaf i'w gweld yn Llanelwy ac ym Modelwyddan mae eglwys farmor ryfeddol i'w gweld. Mae plastai megis Plas Bodrhyddan hefyd yn cynnig diwrnod difyr i'r teulu.