
Mae’r Rhyl a Phrestatyn yn fannau delfrydol ar gyfer mwynhau peth o’r golygfeydd harddaf a phrofi’r gweithgareddau a gynigir.
Yn y Rhyl cewch gerdded ar hyd y promenâd neu fynd am dro ar gefn Nicky mul, sydd wedi ennill prif wobr rhanbarthol. Os ydych chi’n teimlo’n egnïol iawn cewch fynd ar eich beic ar hyd rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 ar hyd Promenâd y Rhyl. Tra eich bod yno galwch heibio’r Palace Fun Centre lle cewch chwarae bingo gyda gwobrau dyddiol i’w hennill, mynd i’r casino neu chwarae bowlio deg. Byddwch yn barod i gael braw yn y Twnnelau Tanddaear, neu beth am lithren fertigol 25 troedfedd Geronimo’s. Bydd plant iau yn mwynhau’r reids ym Mhentre’r Plant. Mae Pwll Brickfields yn lyn dwˆr ffres llonydd wedi’i amgylchynu gan laswelltir a choedwigoedd. Ewch ar hyd y llwybr cerfluniau, neu fwynhau pysgota neu wylio adar – llecyn arbennig o dda yn y gaeaf i weld adar sy’n mudo a’r rhai sy’n gaeafu. Cynhelir rasys trotian yn Nhir Prince sy’n cael eu dangos yn fyw ar y teledu, a chewch wylio peldroed ar safle’r clwb peldroed lleol. Mae llawer o weithgareddau gyda rhywbeth at ddant pawb – hwylio, nofio, tennis, bowlio, golff a dawnsio i enwi ychydig ohonynt.
Mae Prestatyn yn cynnig ystod eang o weithgareddau hefyd, yn cynnwys cwrs golff safon pencampwriaeth, clybiau tennis, criced a pheldroed, bowlio a nofio dan do ac awyr agored. Mae beicio yn ffordd ddelfrydol o fynd o amgylch y dref a’r cefn gwlad cyfagos. Mae dau lwybr beicio yn dechrau ym Mhrestatyn, un yn mynd heibio Rhaeadr Dyserth gyda thafarn, caffi a thoiledau i ymwelwyr wrth ymyl, a’r llall yn mynd heibio Traeth Barcbi a Thraeth y Ffrith. Os ydych chi wedi dod heb eich beic mae siop llogi beics ar y Stryd Fawr. Efallai y gwnewch fwynhau’r Clwb Rasio Hen Geir ac ‘Autograss’, sy’n llawn hwyl i ddechreuwyr a hen lawiau rasio ceir ac sy’n adloniant gwych i’r teulu cyfan. Efallai y bydd ymwelwyr dewrach yn awyddus i fynd ar un o’r teithiau ysbrydion o amgylch y dref yn ystod misoedd yr haf, yng nghwmni’r hanesydd lleol Harry Thomas. Mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnig nifer o weithgareddau yn ardal y Rhyl a Phrestatyn drwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar y llyfryn ‘O Gwmpas’ sydd ar gael o’r Ganolfan Groeso i weld pa weithgareddau a drefnwyd.
Ychydig ymhellach mae modd mwynhau gweithgareddau fel cerdded drwy’r gerddi yng Nghastell Bodelwyddan neu efallai y byddai’r plant yn hoffi’r ‘cawl o brofiad’ yng Ngharchar Rhuthun. Gellir mwynhau gweithgareddau awyr agored ym Mharc Gwledig Loggerheads ger yr Wyddgrug, sy’n cynnig llwybrau sy’n addas i bawb o bob gallu a lefel ffitrwydd.